O'r diwedd yn cael cyfle i roi ambell i lun lan o dro Clochdar penwythnos diwethaf. Mi fu criw mawr ger y Llew Coch i gychwyn a daith ac wedi gweld y rhaeadrau a Chraig y Ddinas dyma gyrraedd nol toc cyn 7 i'r Llew Coch, am beint a brechdan. Diwrnod hyfryd iawn a gwych i weld cymaint o Gymry Cymraeg a dysgwyr yn mwynhau'r dro. Diolch yn arbennig i Emma ddaeth lawr i Sgwd yr Eira gyda fi i gymryd y llun o'r rhaeadr - mi roedd pawb arall yn ddigon call i aros ar ben y bryn!
No comments:
Post a Comment