Showing posts with label Rhodri Morgan. Show all posts
Showing posts with label Rhodri Morgan. Show all posts

Thursday, 1 October 2009

Rhyfeddod Rhodri

Dwi heb gael cyfle hyd yn hyn i ysgrifennu ychydig eiriau heddi' am Rhodri Morgan. Dwi'n sgwennu yn Gymraeg - gan mai yn Gymraeg y byddai bob amser yn siarad gyda Rhodri. Dros blynyddoedd dwi wedi bod a diddordeb mewn arolygon barn - ond mae poblogrwydd Rhodri wedi bod yn gwbl amlwg - ac nid yn unig ymysg cefnogwyr Llafur - ond ar draws pob plaid wleidyddol. Cynhesrwydd gan etholwyr ato fe - ond cynhesrwydd sy'n adlewyrchu ei gynhesrwydd yntau tuag at bobl.

Mae digon o amser i bwyso a mesur cyfnod Rhodri, ond heddiw dylid talu teyrnged i ddyn sydd wedi tra-arglwyddiaethu ar gyfnod cynnar datganoli i Gymru gan arwain y wlad (os nad o redirwydd ei blaid) i fwy o hunain hyder. Bellach mae datganoli yn glir yn 'settled will' pobl Cymru - a dwi'n siwr fod gan arweinyddiaeth Rhodri rhywbeth i wneud a hynny. Bob amser yn barod i sgwrsio, rhannu joc, neu rhannu rysait am fwyd ym marchnad Glanyrafon - mae Rhodri di bod yn Brif Weinidog cwbl unigryw - a chwbl angenrheidiol i'm tyb i.

Felly - diolch i ti Rhodri a phob hwyl yn yr ymddeoliad.